Cawsom noson ddifyr iawn ym Merched y Wawr Henryd Nos Iau, Ebrill 28ain. Daeth Rhiannon o'r siopFlodau a'i merch i'n diddannu.
Fo mi erioed yn un dda iawn am osod blodau, Ond ar ol gwers 'roeddwn yn teimlo fel rhoi cynnig arni ar ol dod adre.
I wneud y noson yn arbennig i mi cefais un o'r trefniadau ddanghosodd Rhiannon i ni yn wobr am wneud y 'bow' taclusaf gyda chyngor gan Elizabeth ar wneud y cyrls hefo siswrn. Ac i goroni'r cwbwl dois yn ail yn y gystadleuaeth ffiol. Diolch i Rhiannon a Siwan(?)
Dyma fy nghynig ar osod blodau.
A dyma'r 'bow'
Ffiol fy mam oedd hon ac yn ffefryn mawr i mi.
No comments:
Post a Comment