Sunday, December 24, 2006
Christmas tree yn y festri
Pam fod plant bach mewn pentref mor Gymreigaidd a Nantlle yn cael Christmas Tree yn y festri meddech chi a dim Coeden Nadolig yn y festri? Fedra i ddim meddwl am lawer o eiriau Saesneg yn cael eu defnyddio pan oeddwn yn tyfu i fyny ym mhentref bach Nantlle ar wahan i'r rhain. Hwyrach am fod y goeden Nadolig yma yn cael ei rhoi i'r plant gan deulu'r plas os cofiaf yn iawn. Piti na fuaswn yn byw yn nes i Tomos Alun Williams, mi fuasai Alun yn ateb fy nghwestiwn. Tybed ydy Alun yn defnyddio cyfrifiadur? Dwi'n siwr ei fod. Ar y Nadolig fel hyn af yn ol unwaith eto yn blentyn i Nantlle. Roedd diwrnod y cyngerdd Nadolig yn y festri yn un o uchafbwyntiau y flwddyn i ni'r plant a'r oedolion hefyd, synnwn i ddim. Byddai plant yr ysgol gynradd yn cymeryd y rhan gyntaf o'r cyngerdd ar y llwyfan uchel a'r goeden Nadolig fawr ar ochr chwith. Y plant hyn a'r oedolion oedd yn cymeryd yr ail ran. Cofiaf yn dda gweld y goeden bythol wyrdd yn cael ei chario i'r festri a'r merched wrthi drwy'r dydd yn lapio anrhegion ar ol bod yn Woolworth yn dewis yn ofalus anrhegion tua'r un bris i siwtio bob oed. Oh ia, ac ambell un i oedolion arbennig hefyd! Wedyn eu gosod yn ofalus yma ac acw ar y goeden yn barod erbyn i Sion Corn gyrraedd. Byddai rhywun yn eu tynnu oddi ar y goeden a darllen yr enw i'r hen fachgen. Dwi'n cofio cerdded i lawr o'r ysgol heibio rhes Victoria, Gors Bach a'r Drws Gwyrdd nes cyraedd y festri i gael yr ymarfer olaf cyn y cyngerdd. Cofiaf hefyd eistedd ar y seti pren coch yn sgleinio ac yn llithrig a chefn y set yn handi gan ei bod yn bosib ei throi o un ochr i'r llall fel fod pobl yn gallu eistedd unrhyw ochr iddi, a chefn rhai o'r seti yn gallu plygu trosodd i wneud bwrdd. Dyma syt y byddem yn eistedd yn y dosbarth darllen a'r Ysgol Sul. Ond stori arall ydy honno. Gallaf glywed arogl sebon ac wyneb coch yn sgleinio bron fel y seti pren ar ol y sebon ac hefyd gyda'r cynwrf o ddisgwyl Sion Corn. Nid yr un rhai oedd yn arwain y cyfarfod pob blwyddyn, ond yr un patrwm a gymerai pob tro. Byddai'r arweinydd yn ein hadgoffa drwy'r cyfarfod ble'r oedd Sion Corn. Tua Rhyd Ddu y byddai'n anfon y neges gyntaf ac wedi aros i gael paned o de. Byddai yn anfon telegram yn reit amal i adael i ni wybod ei fod wedi cyrraedd Drws y Coed, ac ambell dro, yn anffodus byddai un o'r ceirw wedi colli pedol. Wel, erbyn i Sion Corn gyrraedd Gelli Lydan mi fyddwn wedi gweithio fy hun i fyny ac yn edrych yn ol tua drws y festri yn y cefn yn nerfus i edrych oedd o wedi cyrraedd. Ond na, newydd basio'r ysgol yr oedd Sion Corn meddai'r arweinydd. Byddai rhywun yn galw o ddrws y festri fod Sion Corn wedi cyrraedd pen Lon Capel a byddai'r rhan fwyaf o'r goleuadau wedi eu troi i ffwrdd erbyn hyn a phawb yn ddistaw ac yn troi eu pennau yn ol gymaint a allent i weld ble'r oedd. Byddai'r piano yn dechrau chwarae 'Pwy sy'n dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach. Sion Corn, Sion Corn. Tyrd yma, tyrd i lawr' Byddai'n dod i lawr canol y festri yn araf a'i sach ar ei gefn gan stopio i ysgwyd llaw ag ambell un a rhoi cusan i rai o'r merched a phawb yn chwerthin yn hwyliog. Byddai'n cael croeso mawr gan bawb ond un, merch fach o'r enw Margaret oedd wedi cynhyrfu gymaint a dychymyg mor fyw, erbyn i Sion corn gyrraedd y llwyfan byddwn yn crio am fy mod gymaint o ofn yr hen wr pwysig yma. Byddai hyn yn digwydd i mi'n rheolaidd bob blwyddyn ac ar ol mynd adre, byddai mam yn dwrdio a dweud fy mod yn hogan fawr ac yn gwneud ffys. "Mi wyt ti'n gwybod yn iawn mai 'hwn a hwn' wedi gwisgo'i fyny mewn dillad coch ydi hwn. Nid yr un iawn ydy o" Ond doedd waeth iddi heb a dweud dim, yr un stori oedd hi bob blwyddyn. Un flwyddyn fy nhad oedd yn cymeryd rhan Sion Corn pan oeddwn tua deg oed. Danghoswyd y dillad i mi ac egluro mai Dad oedd Sion Corn eleni. Iawn, medda finna, a dyma fo'n gwisgo'r dillad a dod i ddangos ei hun i mi. Popeth yn iawn a finna yn rhoi cusan iddo heb ofn o gwbwl. Noson y cyngerdd, a'r arweinydd yn cario negeseuon oddi wrth Sion Corn, erbyn iddo gyrraedd pen Lon Capel 'roeddwn cyn waethed ag erioed ac ofn y dyn yn y dillad coch a'r locsyn gwyn. Rhywle rhwng ty ni a ben Lon Capel,roedd Dad wedi troi'n Sion Corn go iawn a gwrthodais fynd i fyny ar y llwyfan i nol fy anrheg, fel y byddwn yn gwrthod pob blwyddyn arall, tydw i ddim yn cofio i mi erioed fynd i'r llwyfan i nol fy anrheg. Ar ol i'r anrhegion i gyd gael eu rhannu a rhywun yn pasio fy anrheg i mi o un i'r llall i lawr o'r llwyfan, gallwn ddechrau mwynhau'r cyngerdd unwaith eto. byddai Sion Corn yn galw enwau rhai o'r oedolion i nol anrheg ac yn mynnu cusan a chymeryd ambell un o'r merched ar ei lin, a phawb yn cael sbort fawr drwy'r festri. Bron bob tro byddai pedwarawd yn canu mewn hetiau plismon. We'll run them in, we'll run them in. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai dyma beth fyddwn i yn ei fwynhau yn fwy na dim. Mi fyddent yn plygu eu penagliniau un ar ol y llall ac yn actio'r part mor hwyliog. Wnes i erioed feddwl pan oeddwn yn dechrau'r post yma beth fuaswn yn ei sgwenu na chwaith pa mor hir oedd y stori'n mynd i fod. Ond dyna ni hanes un geneth fach oedd ofn Sion Corn am ei bywyd!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Hi Margaret!
I didn't know you spoke Welsh!I suppose I should have guessed you have such a wonderful eye for your surroundings.
And please please can I be the little fly on your camera when you go to the British Museum??
Have a happy and safe new year!
Regards
Dijanne
Wedi'ch findio chi! Neis iawn cael sgwrsio yn gymraeg! Cariad Carol
Darlun byw iawn. M.R.
Ie, trwy Ddrwsycoed y byddai Sion Corn yn dod bob tro a gyda'i geirw tipyn cynt nag oedd o inni gerdded y 2 filltir a hanner adref. Cyn dogni'r Rhyfel bydda S.C. yn dod i mewn i'r festri gyda balwns yn hofran o'i gylch. Ac oddeutu'r drws y byddai'r hogia' mawr am y goreu yn eu byrstio. 'Roedd hynny yn un o uchafbwyntia'r noson imi a dyheuwn am fod yn un o'r cnafon drwg ryw ddiwrnod. Siomedigaeth fu, gan i'r balwns, a llawer o bleserau eraill, ddiflannu yng nghaledi'r cyfnod. Er hynny, mae'r cof yn felys ac yn ddiolchgar i drigolion Nantlle am ein cynnwys ni o Ddrwsycoed.
Post a Comment