Thursday, November 23, 2006

Dim diddordeb

Fy mwriad yn dechrau'r blog yma yn Gymraeg oedd cael rhywfaint o gysylltiad a merched canol oed neu hyn yn Nghymru a diddordeb yn yr un math o bethau yr ydw i'n hun yn diffori ynddynt. Dwi'n hoffi tynnu lluniau hefo camera, arlunio a phaentio, gwneud lluniau a phatrymau yn defnyddio'r cyfrifiadur, brodwaith rhydd hefo llaw a pheiriant, gweu ac felly ymlaen. A dweud y gwir dwi'n hoffi pob math o waith llaw.
Ond hyd yn hyn does neb a diddordeb yn y pethau yma wedi cysylltu a fi o gwbwl. Sydd yn gwneud i mi feddwl tybed a ydyw yn werth cario 'mlaen. Mi garia'i mlaen am dipyn eto i weld beth ddigwddith.


Rwyf yn perthyn i amryw o grwpiau Saesneg, lle mae pobl yn rhannu lluniau a syniadau creadigol. Anfonais y gwaith uchod I Awstralia ychydig yn ol i'w harddangos mewn arddangosfa. ATC's mae rhain yn cael eu galw, maent yr un maint a'r hen gardiau sigarets ers talwm ac mae merched yn eu casglu a'u cadw mewn album. Y syniad o wneud rhain yw cyfnewid rhwng naill a'r llall ond dim eu gwerthu. Artist's Trading Cards yw'r enw'n llawn. Yr un modd mae pobl yn gwneud 'swap' hefo Cardiau Post creadigol o bob math. Mi ddanghosaf rhain rhyw noson arall.


Mae'r gwaith yma wedi ei ysbrydoli gan y llun yma dynais yng Nghonwy.


Dyma'r ffenestr hir yn yr adeilad yma oedd yn hen sinema dwi'n meddwl.


Dyma lun diddorol arall ar yr un adeilad.

1 comment:

Nic said...

O'n i'n blogio yn Gymraeg am ddwy flynedd cyn i neb gymryd unrhyw sylw. Paid poeni bod neb yn gadael sywadau, dydy hynny ddim yn golygu bod neb yn darllen - prin iawn mae pobl yn boddran gadael sylwadau ar flogiau, a'r rhan fwya y cei di fydd o flogwyr eraill.

Wyt ti'n gadael sylwadau ar flogiau pobl eraill? Nid jyst blogiau Cymraeg, ond blogiau mewn ieithoedd eraill sydd yn ymdrin â'r fath o bynciau â ti? Os wnei di hynny mi gei di fwy o ymwelwyr (dw i wastad yn ymweld â blog unrhyw un sy'n gadael sylw ar Morfablog, a dw i'n siwr bod pobl eraill yn neud yr un peth).