Dro'n ol, gofynais oedd rhywyn yn gwybod y gair Cymraeg am 'second cousin' fenywaidd yn Gymraeg. 'Roeddwn yn gwybod mai cyfyrder oedd bachgen.
Cefais ateb gan hen ffrind ac hefyd gan Nic Dafis, mae ganddo amryw o flogiau Cymraeg diddorol. Dyma un ohonynt englyn y dydd. A dyma ateb diddorol Nic-
"Cyfyrder(-on) neu cyfyrderes(-au), yn ôl Bruce.
Hefyd, caifn yw'r 3ydd/edd, gorchaifn yw'r 4ydd/edd a gorchaw yw'r 5ed. Cyfyrder(-on) neu cyfyrderes(-au), yn ôl Bruce.
Hefyd, caifn yw'r 3ydd/edd, gorchaifn yw'r 4ydd/edd a gorchaw yw'r 5ed."
Mi fydd yn rhaid i mi weithio allan rhai o fy gaifn a'm gorchfain. Fedrai ddim mynd yn llawer pellach dwi'n siwr.

Dyma lun diweddar o Gwyneth hefo Trish, ffrind arall inni. Bydd yn rhaid i mi ofyn i rhywun dynnu llun ohonom hefo'n gilydd.
No comments:
Post a Comment