Thursday, August 24, 2006

Cychod Conwy


Mae cychod arbennig iawn ar yr afon Conwy, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Hen gychod pysgota ydynt a elwir yn 'Nobbies'. 'Does dim ond rhyw ddeugain ar ol erbyn heddiw yn ol pob tebyg.


Cychod hwylio ydynt ac maent yn hawdd i'w 'nabod gan fod pen ol y cwch yn isel a'r tu blaen yn uwch.


Dyma wefan o Hen_luniau_cychod_Pwllheli


Dyma lun o hen long(replica)Yr HMS Pickle, sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghonwy.


I orffen y post yma, dyma lun yr haul yn machlud ar yr afon a'r cychod echnos.

1 comment:

Zoe said...

Lluniau hyfryd! Bydd rhaid i mi fynd i Conwy pan dw i'n dychwelyd i Cymru (y blwyddyn nesaf, dwi'n gobeithio!)