Friday, July 03, 2009

Aduniad 2009

Dyma aduniad criw o ferched oedd yn Ysgol dyffryn Nantlle yn pum degau o'r ganrif ddiwethaf. Anhygoel!

Lluniau go wael eleni, hwyrach am fod y ffenest y tu ol i ni?



Cawsom bnawn bendigedig o sgwrsio a chwerthin. 'Roedd fel petae'r blynyddoedd rhwng dyddiau ysgol a'r presenol heb ddigwydd a phob un ohonom yn ifanc unwaith eto. Trueni na fuasai hynny yn wir a'i bod yn bosib troi yr hen gloc yn ol.

Thursday, June 28, 2007

Diwrnod da


Dyma'r Faenol Fawr, lle da i gael aduniad o griw bach o hen gyfeillion ysgol. Daeth pump ohonom at ein gilydd am sgwrs a phryd o fwyd. Diolch i Enid am ei drefnu a chysylltu a ni i gyd. Camp go anodd trefnu diwrnod oedd yn hwylus i bawb.


Dyma ni newydd gyrraedd ac yn disgwyl am ein bwyd.


Dyma'r cwrs cyntaf ac yn blasu cystal bob tamed ac y mae'n edrych.


Louie sydd yma yn tynu fy llun i yn tynu ei llun hi.


'Roedd hwn yn blasu yn well na'r cwrs cyntaf hyd yn oed. Blas chwaneg oedd arno.


Dyma'r lle tan hardd a'r dyddiad arno oedd 1690 a 1770.


Mae paned yn dda yn yr awrgylch hynafol yma ar ol ein cinio blasus, y tafodau yn llacio a'r chwerthin yn mynd yn uwch a'r hen adgofion yn byrlymio allan gan geisio gofyn, beth ydi hanes hwn a hwn unwaith eto cyn amser gwahanu.
Trefnu i gyfarfod yn yr eisteddfod, ond yn fy marn i, dylem gyfarfod unwaith y mis. Yn anffodus, mae Lerpwl braidd yn bell i ddod draw mor amal. Diolch am ddiwrnod da genod.

Tuesday, June 19, 2007

Ail ddiddordeb

Mae'n ddrwg gennyf fod heb bostio dim ar y flog yma ers tro byd, ond 'roeddwn yn meddwl nad oedd werth y draferth gan nad oedd yn troi allan fel yr oeddwn wedi dychmygu.
Fy mwriad oedd dod a merched Cymraeg canol oed oedd yn hoffi gwneud gwaith llaw at eu gilydd yn union fel y mae y rhestrau Saesneg yn gwneud. Hyd yn hyn, un ferch a'r un diddordebau sydd yn cysylltu a hynny drwy un o'r rhestrau Saesneg. Mae'r ddwy ohonom pob amser yn dweud ychydig o eiriau Cymraeg wrth ein gilydd ac mae hyn wedi creu diddordeb bach yng Nghymru a'i hiaith. Pobl nad oeddynt yn gwybod fod y fath le yn bod, ac yn sicr ddim yn deall fod gennym ein iaith ein hunain.
Merch ifanc o Abertawe yw fy ffrind newydd sydd yn athrawes mewn ysgol eilradd. Dyma'i blog hi. Postcards and stuff
Gwelaf erbyn hyn fod llawer mwy o bobl yn darllen Cymraes Greadigol nad oeddwn wedi sylweddoli, felly 'rwyf yn ail ddechrau.
Nid wyf yn addo y byddaf yn ysgrifennu yn amal gan fy mod wedi cael gwahoddiad i ymuno a phedair merch arall sydd yn dechrau Zine newydd i ferched. Mae hyn yn golygu y byddaf yn ysgrifennu erthyglau a.y. Ar decstiliau yn fwyaf arbennig. Os oes gennych diddordeb dyma'r Zine.



Cliciwch ar y llun ac fe ewch yn syth i'r wefan.

Saturday, May 26, 2007

Ffrindiau newydd

'Dwi newydd ddeall fod gen i ffrindiau newydd sydd yn darllen y blog yma. Croeso i blant ysgol Chwilog.
'Roeddwn i wedi peidio defnyddio'r flog yma gan nad oedd fawr neb yn edrych arni, ond byddaf yn postio yn amlach o hyn ymlaen.
Hwyrach fod defnydd i'r flog yma wedi'r cwbwl. Beth well i hen athrawes ysgol gynradd nac ysgrifennu i blant o dro i dro? Mae arnai ofn y bydd yn rhaid i rhywun fy nysgu sut i roi to bach uwchben gair gan and oes gen i syniad beth i'w wneud.

Os oes rhywun yn ysgol Chwilog yn gwybod, wnewch chi anfon e-bost i mi os gwelwch yn dda? Dyma fy nghyfeiriad -
margaret.rbts@virgin .net

A dyma fy llun yn sgwenu'r blog. hwyrach fod un neu ddau ohonoch yn fy 'nabod yn barod?

Sunday, December 24, 2006

Christmas tree yn y festri

Pam fod plant bach mewn pentref mor Gymreigaidd a Nantlle yn cael Christmas Tree yn y festri meddech chi a dim Coeden Nadolig yn y festri? Fedra i ddim meddwl am lawer o eiriau Saesneg yn cael eu defnyddio pan oeddwn yn tyfu i fyny ym mhentref bach Nantlle ar wahan i'r rhain. Hwyrach am fod y goeden Nadolig yma yn cael ei rhoi i'r plant gan deulu'r plas os cofiaf yn iawn. Piti na fuaswn yn byw yn nes i Tomos Alun Williams, mi fuasai Alun yn ateb fy nghwestiwn.
Tybed ydy Alun yn defnyddio cyfrifiadur? Dwi'n siwr ei fod.

Ar y Nadolig fel hyn af yn ol unwaith eto yn blentyn i Nantlle. Roedd diwrnod y cyngerdd Nadolig yn y festri yn un o uchafbwyntiau y flwddyn i ni'r plant a'r oedolion hefyd, synnwn i ddim.

Byddai plant yr ysgol gynradd yn cymeryd y rhan gyntaf o'r cyngerdd ar y llwyfan uchel a'r goeden Nadolig fawr ar ochr chwith. Y plant hyn a'r oedolion oedd yn cymeryd yr ail ran. Cofiaf yn dda gweld y goeden bythol wyrdd yn cael ei chario i'r festri a'r merched wrthi drwy'r dydd yn lapio anrhegion ar ol bod yn Woolworth yn dewis yn ofalus anrhegion tua'r un bris i siwtio bob oed. Oh ia, ac ambell un i oedolion arbennig hefyd! Wedyn eu gosod yn ofalus yma ac acw ar y goeden yn barod erbyn i Sion Corn gyrraedd. Byddai rhywun yn eu tynnu oddi ar y goeden a darllen yr enw i'r hen fachgen.

Dwi'n cofio cerdded i lawr o'r ysgol heibio rhes Victoria, Gors Bach a'r Drws Gwyrdd nes cyraedd y festri i gael yr ymarfer olaf cyn y cyngerdd. Cofiaf hefyd eistedd ar y seti pren coch yn sgleinio ac yn llithrig a chefn y set yn handi gan ei bod yn bosib ei throi o un ochr i'r llall fel fod pobl yn gallu eistedd unrhyw ochr iddi, a chefn rhai o'r seti yn gallu plygu trosodd i wneud bwrdd. Dyma syt y byddem yn eistedd yn y dosbarth darllen a'r Ysgol Sul. Ond stori arall ydy honno. Gallaf glywed arogl sebon ac wyneb coch yn sgleinio bron fel y seti pren ar ol y sebon ac hefyd gyda'r cynwrf o ddisgwyl Sion Corn.

Nid yr un rhai oedd yn arwain y cyfarfod pob blwyddyn, ond yr un patrwm a gymerai pob tro. Byddai'r arweinydd yn ein hadgoffa drwy'r cyfarfod ble'r oedd Sion Corn. Tua Rhyd Ddu y byddai'n anfon y neges gyntaf ac wedi aros i gael paned o de. Byddai yn anfon telegram yn reit amal i adael i ni wybod ei fod wedi cyrraedd Drws y Coed, ac ambell dro, yn anffodus byddai un o'r ceirw wedi colli pedol. Wel, erbyn i Sion Corn gyrraedd Gelli Lydan mi fyddwn wedi gweithio fy hun i fyny ac yn edrych yn ol tua drws y festri yn y cefn yn nerfus i edrych oedd o wedi cyrraedd. Ond na, newydd basio'r ysgol yr oedd Sion Corn meddai'r arweinydd. Byddai rhywun yn galw o ddrws y festri fod Sion Corn wedi cyrraedd pen Lon Capel a byddai'r rhan fwyaf o'r goleuadau wedi eu troi i ffwrdd erbyn hyn a phawb yn ddistaw ac yn troi eu pennau yn ol gymaint a allent i weld ble'r oedd. Byddai'r piano yn dechrau chwarae
'Pwy sy'n dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach.
Sion Corn, Sion Corn.
Tyrd yma, tyrd i lawr'

Byddai'n dod i lawr canol y festri yn araf a'i sach ar ei gefn gan stopio i ysgwyd llaw ag ambell un a rhoi cusan i rai o'r merched a phawb yn chwerthin yn hwyliog. Byddai'n cael croeso mawr gan bawb ond un, merch fach o'r enw Margaret oedd wedi cynhyrfu gymaint a dychymyg mor fyw, erbyn i Sion corn gyrraedd y llwyfan byddwn yn crio am fy mod gymaint o ofn yr hen wr pwysig yma. Byddai hyn yn digwydd i mi'n rheolaidd bob blwyddyn ac ar ol mynd adre, byddai mam yn dwrdio a dweud fy mod yn hogan fawr ac yn gwneud ffys. "Mi wyt ti'n gwybod yn iawn mai 'hwn a hwn' wedi gwisgo'i fyny mewn dillad coch ydi hwn. Nid yr un iawn ydy o" Ond doedd waeth iddi heb a dweud dim, yr un stori oedd hi bob blwyddyn.

Un flwyddyn fy nhad oedd yn cymeryd rhan Sion Corn pan oeddwn tua deg oed. Danghoswyd y dillad i mi ac egluro mai Dad oedd Sion Corn eleni. Iawn, medda finna, a dyma fo'n gwisgo'r dillad a dod i ddangos ei hun i mi. Popeth yn iawn a finna yn rhoi cusan iddo heb ofn o gwbwl. Noson y cyngerdd, a'r arweinydd yn cario negeseuon oddi wrth Sion Corn, erbyn iddo gyrraedd pen Lon Capel 'roeddwn cyn waethed ag erioed ac ofn y dyn yn y dillad coch a'r locsyn gwyn. Rhywle rhwng ty ni a ben Lon Capel,roedd Dad wedi troi'n Sion Corn go iawn a gwrthodais fynd i fyny ar y llwyfan i nol fy anrheg, fel y byddwn yn gwrthod pob blwyddyn arall, tydw i ddim yn cofio i mi erioed fynd i'r llwyfan i nol fy anrheg.

Ar ol i'r anrhegion i gyd gael eu rhannu a rhywun yn pasio fy anrheg i mi o un i'r llall i lawr o'r llwyfan, gallwn ddechrau mwynhau'r cyngerdd unwaith eto. byddai Sion Corn yn galw enwau rhai o'r oedolion i nol anrheg ac yn mynnu cusan a chymeryd ambell un o'r merched ar ei lin, a phawb yn cael sbort fawr drwy'r festri.

Bron bob tro byddai pedwarawd yn canu mewn hetiau plismon. We'll run them in, we'll run them in. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai dyma beth fyddwn i yn ei fwynhau yn fwy na dim. Mi fyddent yn plygu eu penagliniau un ar ol y llall ac yn actio'r part mor hwyliog.

Wnes i erioed feddwl pan oeddwn yn dechrau'r post yma beth fuaswn yn ei sgwenu na chwaith pa mor hir oedd y stori'n mynd i fod. Ond dyna ni hanes un geneth fach oedd ofn Sion Corn am ei bywyd!

Nadolig Llawen



Cerdyn wedi ei wneud hefo PaintShopPro9 ydy hwn a dyma fy nymuniad i, a'r mwayfrif ohonom y Nadolig hwn ac am y flwyddyn newydd - 2007. Heddwch.
Mae'r byd i gyd wedi mynd yn hollol wallgof ac 'rydym i gyd yn cael ein harwain i'r lladdfa gan ychydig o ddynion sydd yn arwain ein gwledydd.

Ar nodyn mwy calonnog, mae pobl dalentog iawn yn troi eu meddyliau at bethau i helpu dynol ryw, drwy weithio'n galed i gael meddyginiaethau i helpu ymladd cancr ac HIV a llawer o bethau eraill.

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi i gyd.

Thursday, November 23, 2006

Dim diddordeb

Fy mwriad yn dechrau'r blog yma yn Gymraeg oedd cael rhywfaint o gysylltiad a merched canol oed neu hyn yn Nghymru a diddordeb yn yr un math o bethau yr ydw i'n hun yn diffori ynddynt. Dwi'n hoffi tynnu lluniau hefo camera, arlunio a phaentio, gwneud lluniau a phatrymau yn defnyddio'r cyfrifiadur, brodwaith rhydd hefo llaw a pheiriant, gweu ac felly ymlaen. A dweud y gwir dwi'n hoffi pob math o waith llaw.
Ond hyd yn hyn does neb a diddordeb yn y pethau yma wedi cysylltu a fi o gwbwl. Sydd yn gwneud i mi feddwl tybed a ydyw yn werth cario 'mlaen. Mi garia'i mlaen am dipyn eto i weld beth ddigwddith.


Rwyf yn perthyn i amryw o grwpiau Saesneg, lle mae pobl yn rhannu lluniau a syniadau creadigol. Anfonais y gwaith uchod I Awstralia ychydig yn ol i'w harddangos mewn arddangosfa. ATC's mae rhain yn cael eu galw, maent yr un maint a'r hen gardiau sigarets ers talwm ac mae merched yn eu casglu a'u cadw mewn album. Y syniad o wneud rhain yw cyfnewid rhwng naill a'r llall ond dim eu gwerthu. Artist's Trading Cards yw'r enw'n llawn. Yr un modd mae pobl yn gwneud 'swap' hefo Cardiau Post creadigol o bob math. Mi ddanghosaf rhain rhyw noson arall.


Mae'r gwaith yma wedi ei ysbrydoli gan y llun yma dynais yng Nghonwy.


Dyma'r ffenestr hir yn yr adeilad yma oedd yn hen sinema dwi'n meddwl.


Dyma lun diddorol arall ar yr un adeilad.

Saturday, October 28, 2006

Hen arferion

Cafodd y gwr a finna' sgwrs am hen arferion ar y ffordd i Gaer y bore yma.
Byddai fy nhad yn arfer ysgwyd llaw pan fyddai'n cyfarfod ag un o'i ffrindiau ar y ffordd. Os byddai yn cafarfod a hen ffrind a honno'n ferch byddai'n aml yn rhoi clamp o gusan ar ei boch. 'Roedd teulu Nain Victoria i gyd yn gwneud hyn pob tro y byddent yn gweld eu gilydd hefyd. Fedrai fy mam ddim dygymod a hyn o gwbwl am nad oedd wedi arfer, a byddai yn sefyll yn hollol stiff os byddai unrhyw un o'r teulu yn gwneud hyn iddi hi. 'Roedd y merched hefyd yn dangos eu teimladau at eu teulu yr un modd.
Un o'r rhai sydd yn dangos ei theimladau ydw inna' hefyd. Os byddaf yn gweld hen ffrindiau yn y dre fedra'i ddim peidio a dangos mor falch yr wyf o'u gweld. Mae fy meibion yr un fath dwi'n credu. Ond mae'r gwr yn tueddu i weld hyn yn hen lol hefo pobol ddiarth.
Ond un peth mae yntau yn ei wneud os bydd yn gweld hen ffrind neu gydnabod mae heb eu gweld ers tro ydy' ysgwyd llaw. Dwi'n meddwl fod yr hen arferiad da yma wedi mynd yn amhoblogaidd tros dro, ond mae pobl wedi gafael ynddo eto. Gwelais un o fy meibion yn ei wneud yn hollol naturiol y dydd o'r blaen ac 'roeddwn yn falch o'i weld. Mae hyn yn gyffredin iawn mewn rhannau o'r cyfandir hefyd. Pan oeddwn yn Ffrainc ychydig yn ol, sylwais fod y bobl ifanc i gyd yn gwneud hyn a'u ffrindiau, y bechgyn yn ysgwyd llaw ac yn rhoi cusan ar foch y merched. Mae'r merched yn cusannu'r bechgyn a'r merched ar eu bochau pan yn cyfarfod. Fedra i ddim peidio a meddwl fod hyn yn help mawr i gadw pobl yn ffrindiau. Dallai ddim gweld neb sydd wedi cyfarch eu gilydd mor annwyl yn gallu troi'n gas at eu gilydd yn fuan. Gobeithio y bydd pobl Cymru yn ail afael yn yr arferiad yma.
Digwyddodd rhywbeth nad anghofia'i byth pan oedd ceir cynhebrwng fy nhad yn mynd drwy'r stryd yn araf yng Nghonwy. Safodd hen fachgen ar ochor y ffordd, tynnodd ei gap a'i ddal o'i flaen mewn parch at rhywun nad oedd hyd yn oed yn ei adnabod, sef fy nhad. Dyma hen arferiad sydd wedi mynd ar goll yn yr ardal yma. Dwi wedi meddwl llawer am y digwyddiad yma. Petai fy nhad wedi ei weld buasai ei lygaid yn llenwi dwi'n siwr gan ei fod yn un dwys iawn.
Byddai fy nhad yn dyfynnu darnau o'r bregeth wrth y bwrdd bwyd ar y Sul, weithiau gyda chryndod yn ei lais a'i lygaid yn llawn os byddai'r pregethwr wedi dweud rhywbeth arbennig.