Saturday, July 09, 2011
Thursday, July 07, 2011
Aduniad 2011
Dyma flwyddyn arall wedi mynd heibio a finna’ heb roi lluniau 2010 i fyny eto.
Cawsom bnawn ardderchog yn Pen y Bryn yn sgwrsio, dal i fyny hefo hen ffrindiau, chwerthin a throi’n gennod ysgol am y pnawn. Piti fod rhai yn methu bod hefo ni heddiw ond ‘roedd dwy newydd, sef Wenna a Helen. Dwi’n meddwl fod Helen wedi mwynhau ei hun er ei bod yn llawer ‘fengach na’r criw oedd yna heddiw. Dwi’n gwybod fod Wenna wedi mwynhau ei hun yn fawr iawn. Gobeithio y byddwn wedi perswadio rhagor i ddod y tro nesaf ac ar ol dod un waith dwi’n siwr na fydd neb eisiau colli yr un cyfarfod. Mae Nan, Louise a Mair yn dod yr holl ffordd o Lerpwl pob blwyddyn ac maen’t yn codi Nan i fyny ar y ffordd yn Northop Hall. Daeth Enid a Gwenfron, Eirlys a finna’ hefo hi yn y car. Doedd dim lle i Megan a daeth hithau yn ei char ei hun. Daeth Ceri a Glenda hefo’i gilydd yn gwneud dwsin ohonom.
‘Roedd llawer David Bailey yn y criw ond dyma rai o’r lluniau gorau dynais i.
Mae tair ar goll o’r llun yma. ‘Roedd Megan a Helen newydd fynd adre ac mae Eirlys tu ol i’r camera.
Margaret a Louise
Enid a Nan
Ceri a Glenda.
Wenna a Nan
Margaret, Mair a Megan
Helen
Eirlys ac Enid
Enid a Gwnefron
Enid, Margaret a Nan.