Thursday, June 02, 2016

Newid lliw


Dyma drefniant arall o flodau. Diolch i Rhiannon, mae rhywun fyddai'n trwynio bob amser pan fyddai un o'r teulu yn cyrraedd hefo swp o flodau. Ond byddai croeso mawr i blanhigyn unrhyw adeg.


Dyma flodyn 'Tegeirian' man gefais flwyddyn yn ol. Orchid yn Saesneg ac 'roedd yn rhaid i mi edrych i fyny beth oedd yn Gymraeg.


A dyma un arall brynais tua pedair blynedd yn ol bellach.Erbyn hyn mae gen i saith ohonynt ac mae'r blodau yn para yn hir gydag ychydig iawn o ofal. Tipyn bach o ddwr unwaith yr wythnos a'u gadael ar ffenestr sydd yn cael haul y bore. Dyma sydd yn gweithio i mi beth bynnag.