Saturday, May 21, 2016

Gwaith dysgu

Wnes i ddim sylweddoli faint o waith sydd gen i ddysgu sut i drefnu blodau.
Y peth cyntaf sylweddolais ydy ei fod yn bwysig iawn dewis swp o flodau ffres. Ar ol prynu swp gwael ddoe am fy mod yn hoffi'r lliwiau mi fyddaf yn fwy gofalus o hyn ymlaen.


Ar ol tynnu blodau wedi gwywo allan o'r trfniant olaf, rhoi 3 blodyn lliwgar yn eu lle!


A dyma'r trefniant newydd. Mi wnaf y math yma o drefniant nes y byddaf wedi cael mwy o hyder.


Thursday, May 12, 2016

Siop Flodau LLanrwst

Y Siop Flodau
Cawsom noson ddifyr iawn ym Merched y Wawr Henryd Nos Iau, Ebrill 28ain. Daeth Rhiannon o'r siopFlodau a'i merch i'n diddannu.
Fo mi erioed yn un dda iawn am osod blodau, Ond ar ol gwers 'roeddwn yn teimlo fel rhoi cynnig arni ar ol dod adre.
I wneud y noson yn arbennig i mi cefais un o'r trefniadau ddanghosodd Rhiannon i ni yn wobr am wneud y 'bow' taclusaf gyda chyngor gan Elizabeth ar wneud y cyrls hefo siswrn.  Ac i goroni'r cwbwl dois yn ail yn y gystadleuaeth ffiol. Diolch i Rhiannon a Siwan(?)


Dyma fy nghynig ar osod blodau.


A dyma'r 'bow'


Ffiol fy mam oedd hon ac yn ffefryn mawr i mi.