Thursday, July 08, 2010

Aduniad 2010

aduniad 021

Wel dyma ni, aduniad arall a chael teimlo’n dair ar ddeg oed eto am ychydig o oriau. Mae’r cwmni’n mynd yn fwy pob blwyddyn. Gobeithio y bydd criw arall yn ymuno a ni’r flwyddyn nesaf. Helen (Plemming), Alwena (Abergele) Glenys (P) a Marian ( Manceinion) ei hen ffrind hwyrach? Cawsom gwmni Glenda a Meirwen (Canada) am ychydig hefyd ond anghofiais dynnu llun o’r ddwy. Mae’n ddrwg gen i genod. Y tro nesaf. Bydd rhaid i ti drefnu dod adre yr adeg yma y flwyddyn nesaf hefyd Meirwen.

aduniad 009

Dwi’n siwr y bydd pawb yn deall mai cyfarfod Mair (Powell) oedd uchafbwynt yr aduniad i mi y tro yma gan fod 58 o flynyddoedd wedi mynd heibio er pan weslom ein gilydd. Roeddem yn arfer eistedd wrth ochr ein gilydd ar y bws ysgol pob dydd nes i Mair a’r teulu symud i Lerpwl yn 1952. Tad Mair Y Parchedig R J Powell oedd ein gweinidog ni cyn mynd yn weinidog Aigburth Road yn Lerpwl. Mae Ceri a Mair a finnau yn hen ffrindiau fel y gwelwch.

aduniad 024

Dyma ni tua 1947 ar ein beics newydd. Fi, Ceri, Glenys a Mair wrth giat ysgol Nantlle.

aduniad 025

Dyma ni eto yn 1943. Parti penblwydd Mair yn 6 oed oedd yr achlysur yma. Ceri, Mair a finna’ hefo Ifan Wyn a Silyn fy nghefnder yn y tu ol.

aduniad 004

aduniad 010

Llun hapus iawn o Enid, Nan a Gwenfron. y tro cyntaf i Gwenfron ddod hefo ni hefyd ond dim yr olaf dwi’n siwr. Mae gen i gof da o Enid a Gwenfron yn canu deuawd hefo’i gilydd yn yr ysgol, ond ches i ddim can heddiw.

aduniad 006

Dwi’n siwr fod Humphrey yn gweld techneg camera Louie wedi gwella yn fawr erbyn eleni. Mae yna reswm da pam ein bod yn galw Enid, yn ‘Enid Sec’ yn toes?

aduniad 007

Cefais sylw pawb am funud i dynnu’r llun yma. Mae Enid yn brysur yn cadw cofnodion o beth mae pawb am ei gael i fwyta. Da iawn ti Enid mae angen tipyn o drefn yma.

aduniad 008

Dyma Ceri yn astudio un o hen luniau hir yr ysgol. ‘Roeddwn yn falch iawn o glywed ganddi iddi gyfarfod Miss Jones French yn ddiweddar iawn yn dal yn fyw ac iach. Mae gen i lawer o le i ddiolch iddi, nid am fy nysgu i siarad Ffrangeg ond am roi yr awydd i ddylunio brodwaith i mi.

aduniad 011

Louie ac Enid yn tynnu fy llun i yn tynnu eu lluniau nhw a Nan yn edrych yn ifanc ac yn dlws o hyd!

aduniad 016

Llun arall da o Nan.

aduniad 013

Dyma Eirlys sydd hefo ni am y tro cyntaf eleni hefo Ann. Mae Ann a finna’ yn gweld ein gilydd ddwywaith y mis yn SerenTex ac mae hi wedi hen arfer cael tynnu ei llun bellach.

aduniad 020

Dyma ‘glamour girls’ Carmel i chi. Ann a Louie.

aduniad 001

Un llun bach arall o Ceri a Mair i orffen. Mae’r ddwy yn trio cofio enwau pawb oedd yn y cor yn Nantlle ers talwm. Piti garw fod Gwyneth ddim yn dda eleni ac Enid ei chwaer ddim wedi dwad hebddi. Rhaid i chi ddod flwyddyn nesa’ genod, roedd yn chwith hebddoch.

Wel dyna ni am flwyddyn arall. Dwi methu deall pam na chawn ni gyfarfod unwaith y mis fy hun!

No comments: