Thursday, June 28, 2007

Diwrnod da


Dyma'r Faenol Fawr, lle da i gael aduniad o griw bach o hen gyfeillion ysgol. Daeth pump ohonom at ein gilydd am sgwrs a phryd o fwyd. Diolch i Enid am ei drefnu a chysylltu a ni i gyd. Camp go anodd trefnu diwrnod oedd yn hwylus i bawb.


Dyma ni newydd gyrraedd ac yn disgwyl am ein bwyd.


Dyma'r cwrs cyntaf ac yn blasu cystal bob tamed ac y mae'n edrych.


Louie sydd yma yn tynu fy llun i yn tynu ei llun hi.


'Roedd hwn yn blasu yn well na'r cwrs cyntaf hyd yn oed. Blas chwaneg oedd arno.


Dyma'r lle tan hardd a'r dyddiad arno oedd 1690 a 1770.


Mae paned yn dda yn yr awrgylch hynafol yma ar ol ein cinio blasus, y tafodau yn llacio a'r chwerthin yn mynd yn uwch a'r hen adgofion yn byrlymio allan gan geisio gofyn, beth ydi hanes hwn a hwn unwaith eto cyn amser gwahanu.
Trefnu i gyfarfod yn yr eisteddfod, ond yn fy marn i, dylem gyfarfod unwaith y mis. Yn anffodus, mae Lerpwl braidd yn bell i ddod draw mor amal. Diolch am ddiwrnod da genod.

2 comments:

Sheri said...

I can't read what it's says but the pictures are very nice.
Sheri:)

Anonymous said...

Mae y bwyd a awyrgylch yn edrych yn perfaith ,codi awydd bwyd arnai .
dwi mor hapus fod ti wedi gadael neges ar fun blog.
lot o cariad sesga xx
ps mae sgwennu cymraeg fi yn hopless .