Saturday, May 26, 2007

Ffrindiau newydd

'Dwi newydd ddeall fod gen i ffrindiau newydd sydd yn darllen y blog yma. Croeso i blant ysgol Chwilog.
'Roeddwn i wedi peidio defnyddio'r flog yma gan nad oedd fawr neb yn edrych arni, ond byddaf yn postio yn amlach o hyn ymlaen.
Hwyrach fod defnydd i'r flog yma wedi'r cwbwl. Beth well i hen athrawes ysgol gynradd nac ysgrifennu i blant o dro i dro? Mae arnai ofn y bydd yn rhaid i rhywun fy nysgu sut i roi to bach uwchben gair gan and oes gen i syniad beth i'w wneud.

Os oes rhywun yn ysgol Chwilog yn gwybod, wnewch chi anfon e-bost i mi os gwelwch yn dda? Dyma fy nghyfeiriad -
margaret.rbts@virgin .net

A dyma fy llun yn sgwenu'r blog. hwyrach fod un neu ddau ohonoch yn fy 'nabod yn barod?

1 comment:

James said...

Os yr dych chi eisiau roi "to bach" uwchben y llafariaid, gallwch chi'n torri a phastio y llthyren 'na o 'charmap' ar eich cyfrifiadur. Cliciwch 'start' wedyn teipio 'charmap' ar y anogwyr. Mae e'n orau i ddewis ffont cyffredin fel 'arial' o 'tahoma' i gopio. Wedyn mi allwch chi'n teipio geiriau tebyg tŷ o bêl.

Dyna syniad ardderchog i flogio i blant.