Tuesday, August 15, 2006

Y Post Cyntaf


Rwyf yn byw ar lan yr afon Conwy, yn union tros y ffordd a'r castell. Rwy'n briod a dau fachgen wedi tyfu i fyny ac mae gennyf 4 o wyrion ac un arall ar y ffordd.

Dechreuais flog Saesneg tua'r Nadolig y llynedd a gelwais hi yn 'Digital Gran' gan fy mod yn Nain ac yn hoff iawn o chwarae hefo'r cyfrifiadur. Cefais tipyn o hwyl ar y cyfrifiadur dros y blynyddoed gan gael llawer o waith wedi ei gyhoeddi mewn gwahanol gylchgronau Brodwaith ac felly ymlaen yn Saesneg.

Rwyf wrth fy modd yn gwneud pob math o waith llaw ac yn gorfod dal yn dynn yn fy mhwrs yn amal rhag gwario mwy o arian ar ddechrau rhyw 'broject' newydd hollol i mi.
Rwyf yn perthyn i grwp tecstiliau o'r enw 'Serendipity' ac rwyf wedi dechrau blog tros y grwp o'r enw 'Serentex'.

Pleser arall gennyf yw tynnu lluniau a chamera ddigidol, a byddaf yn ceisio rhoi llun ar fy mlog mor aml a phosib.

Gyda llaw, rhyw bleser bach i mi fy hun ydy'r flog yma, ond gorau'n y byd os bydd merched Cymru yn ei ddarllen o dro i dro hefyd. Edrychaf arno fel ffordd i hybu'r Gymraeg ar yr un pryd ysprydoli merched i wneud mwy o waith llaw. Teimlaf ers tro byd fod ein hysgolion wedi eu gorfodi i roi gwaith llaw o'r neilltu er mwyn rhoi mwy o amser i'r 3R a phethau eraill sydd yn cael eu cyfrif yn bwysicach. Wrth gwrs mae angen sylw mawr ar y pynciau yna, ond mwy a mwy o amser hamdden sydd gennym ac mae llawer o'n pobl ifanc ni heb y sgiliau sydd eu hangen i ddiddori eu hunain. Mae creu rhywbeth o'r newydd yn gallu rhoi pleser mawr iawn ac mae'n drist meddwl fod cymaint o bobl heb deimlo'r pleser yma.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Mae fy nain am dau ewythyr yn byw yn agos i ganolfan Tan y Fron Bylchau, ac aeth ffrind i mi i'r ysgol ar y safle cyn iddi gau.

O ran dy neges ar flog Nic, mae ambell ferch yn blogio'n Gymraeg, mae:

Aderyn Cân
byd hyfryd (merch dwi'n meddwl!)
castell tywod
Cwacian
dros
dotio
Newynog am Gymraeg

Mae mwy, ond mond wedi copio rhai'n o'm blogroll ydw i.

Mae blog gan ddwy o'r enw Wierdo a Llefenni (un 'n' efallai) hefyd.

Nic said...

Neis gweld bod Rhys yn ymateb i sylwadau ar fy mlog i cyn i mi gael cyfle ;-)

Digitalgran said...

Diolch i chi'ch dau am ymateb mor sydyn. Mi af i weld y merched yma 'rwan.