Sunday, December 24, 2006

Christmas tree yn y festri

Pam fod plant bach mewn pentref mor Gymreigaidd a Nantlle yn cael Christmas Tree yn y festri meddech chi a dim Coeden Nadolig yn y festri? Fedra i ddim meddwl am lawer o eiriau Saesneg yn cael eu defnyddio pan oeddwn yn tyfu i fyny ym mhentref bach Nantlle ar wahan i'r rhain. Hwyrach am fod y goeden Nadolig yma yn cael ei rhoi i'r plant gan deulu'r plas os cofiaf yn iawn. Piti na fuaswn yn byw yn nes i Tomos Alun Williams, mi fuasai Alun yn ateb fy nghwestiwn.
Tybed ydy Alun yn defnyddio cyfrifiadur? Dwi'n siwr ei fod.

Ar y Nadolig fel hyn af yn ol unwaith eto yn blentyn i Nantlle. Roedd diwrnod y cyngerdd Nadolig yn y festri yn un o uchafbwyntiau y flwddyn i ni'r plant a'r oedolion hefyd, synnwn i ddim.

Byddai plant yr ysgol gynradd yn cymeryd y rhan gyntaf o'r cyngerdd ar y llwyfan uchel a'r goeden Nadolig fawr ar ochr chwith. Y plant hyn a'r oedolion oedd yn cymeryd yr ail ran. Cofiaf yn dda gweld y goeden bythol wyrdd yn cael ei chario i'r festri a'r merched wrthi drwy'r dydd yn lapio anrhegion ar ol bod yn Woolworth yn dewis yn ofalus anrhegion tua'r un bris i siwtio bob oed. Oh ia, ac ambell un i oedolion arbennig hefyd! Wedyn eu gosod yn ofalus yma ac acw ar y goeden yn barod erbyn i Sion Corn gyrraedd. Byddai rhywun yn eu tynnu oddi ar y goeden a darllen yr enw i'r hen fachgen.

Dwi'n cofio cerdded i lawr o'r ysgol heibio rhes Victoria, Gors Bach a'r Drws Gwyrdd nes cyraedd y festri i gael yr ymarfer olaf cyn y cyngerdd. Cofiaf hefyd eistedd ar y seti pren coch yn sgleinio ac yn llithrig a chefn y set yn handi gan ei bod yn bosib ei throi o un ochr i'r llall fel fod pobl yn gallu eistedd unrhyw ochr iddi, a chefn rhai o'r seti yn gallu plygu trosodd i wneud bwrdd. Dyma syt y byddem yn eistedd yn y dosbarth darllen a'r Ysgol Sul. Ond stori arall ydy honno. Gallaf glywed arogl sebon ac wyneb coch yn sgleinio bron fel y seti pren ar ol y sebon ac hefyd gyda'r cynwrf o ddisgwyl Sion Corn.

Nid yr un rhai oedd yn arwain y cyfarfod pob blwyddyn, ond yr un patrwm a gymerai pob tro. Byddai'r arweinydd yn ein hadgoffa drwy'r cyfarfod ble'r oedd Sion Corn. Tua Rhyd Ddu y byddai'n anfon y neges gyntaf ac wedi aros i gael paned o de. Byddai yn anfon telegram yn reit amal i adael i ni wybod ei fod wedi cyrraedd Drws y Coed, ac ambell dro, yn anffodus byddai un o'r ceirw wedi colli pedol. Wel, erbyn i Sion Corn gyrraedd Gelli Lydan mi fyddwn wedi gweithio fy hun i fyny ac yn edrych yn ol tua drws y festri yn y cefn yn nerfus i edrych oedd o wedi cyrraedd. Ond na, newydd basio'r ysgol yr oedd Sion Corn meddai'r arweinydd. Byddai rhywun yn galw o ddrws y festri fod Sion Corn wedi cyrraedd pen Lon Capel a byddai'r rhan fwyaf o'r goleuadau wedi eu troi i ffwrdd erbyn hyn a phawb yn ddistaw ac yn troi eu pennau yn ol gymaint a allent i weld ble'r oedd. Byddai'r piano yn dechrau chwarae
'Pwy sy'n dwad dros y bryn yn ddistaw, ddistaw bach.
Sion Corn, Sion Corn.
Tyrd yma, tyrd i lawr'

Byddai'n dod i lawr canol y festri yn araf a'i sach ar ei gefn gan stopio i ysgwyd llaw ag ambell un a rhoi cusan i rai o'r merched a phawb yn chwerthin yn hwyliog. Byddai'n cael croeso mawr gan bawb ond un, merch fach o'r enw Margaret oedd wedi cynhyrfu gymaint a dychymyg mor fyw, erbyn i Sion corn gyrraedd y llwyfan byddwn yn crio am fy mod gymaint o ofn yr hen wr pwysig yma. Byddai hyn yn digwydd i mi'n rheolaidd bob blwyddyn ac ar ol mynd adre, byddai mam yn dwrdio a dweud fy mod yn hogan fawr ac yn gwneud ffys. "Mi wyt ti'n gwybod yn iawn mai 'hwn a hwn' wedi gwisgo'i fyny mewn dillad coch ydi hwn. Nid yr un iawn ydy o" Ond doedd waeth iddi heb a dweud dim, yr un stori oedd hi bob blwyddyn.

Un flwyddyn fy nhad oedd yn cymeryd rhan Sion Corn pan oeddwn tua deg oed. Danghoswyd y dillad i mi ac egluro mai Dad oedd Sion Corn eleni. Iawn, medda finna, a dyma fo'n gwisgo'r dillad a dod i ddangos ei hun i mi. Popeth yn iawn a finna yn rhoi cusan iddo heb ofn o gwbwl. Noson y cyngerdd, a'r arweinydd yn cario negeseuon oddi wrth Sion Corn, erbyn iddo gyrraedd pen Lon Capel 'roeddwn cyn waethed ag erioed ac ofn y dyn yn y dillad coch a'r locsyn gwyn. Rhywle rhwng ty ni a ben Lon Capel,roedd Dad wedi troi'n Sion Corn go iawn a gwrthodais fynd i fyny ar y llwyfan i nol fy anrheg, fel y byddwn yn gwrthod pob blwyddyn arall, tydw i ddim yn cofio i mi erioed fynd i'r llwyfan i nol fy anrheg.

Ar ol i'r anrhegion i gyd gael eu rhannu a rhywun yn pasio fy anrheg i mi o un i'r llall i lawr o'r llwyfan, gallwn ddechrau mwynhau'r cyngerdd unwaith eto. byddai Sion Corn yn galw enwau rhai o'r oedolion i nol anrheg ac yn mynnu cusan a chymeryd ambell un o'r merched ar ei lin, a phawb yn cael sbort fawr drwy'r festri.

Bron bob tro byddai pedwarawd yn canu mewn hetiau plismon. We'll run them in, we'll run them in. Ac mae'n rhaid i mi ddweud mai dyma beth fyddwn i yn ei fwynhau yn fwy na dim. Mi fyddent yn plygu eu penagliniau un ar ol y llall ac yn actio'r part mor hwyliog.

Wnes i erioed feddwl pan oeddwn yn dechrau'r post yma beth fuaswn yn ei sgwenu na chwaith pa mor hir oedd y stori'n mynd i fod. Ond dyna ni hanes un geneth fach oedd ofn Sion Corn am ei bywyd!

Nadolig Llawen



Cerdyn wedi ei wneud hefo PaintShopPro9 ydy hwn a dyma fy nymuniad i, a'r mwayfrif ohonom y Nadolig hwn ac am y flwyddyn newydd - 2007. Heddwch.
Mae'r byd i gyd wedi mynd yn hollol wallgof ac 'rydym i gyd yn cael ein harwain i'r lladdfa gan ychydig o ddynion sydd yn arwain ein gwledydd.

Ar nodyn mwy calonnog, mae pobl dalentog iawn yn troi eu meddyliau at bethau i helpu dynol ryw, drwy weithio'n galed i gael meddyginiaethau i helpu ymladd cancr ac HIV a llawer o bethau eraill.

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi i gyd.

Thursday, November 23, 2006

Dim diddordeb

Fy mwriad yn dechrau'r blog yma yn Gymraeg oedd cael rhywfaint o gysylltiad a merched canol oed neu hyn yn Nghymru a diddordeb yn yr un math o bethau yr ydw i'n hun yn diffori ynddynt. Dwi'n hoffi tynnu lluniau hefo camera, arlunio a phaentio, gwneud lluniau a phatrymau yn defnyddio'r cyfrifiadur, brodwaith rhydd hefo llaw a pheiriant, gweu ac felly ymlaen. A dweud y gwir dwi'n hoffi pob math o waith llaw.
Ond hyd yn hyn does neb a diddordeb yn y pethau yma wedi cysylltu a fi o gwbwl. Sydd yn gwneud i mi feddwl tybed a ydyw yn werth cario 'mlaen. Mi garia'i mlaen am dipyn eto i weld beth ddigwddith.


Rwyf yn perthyn i amryw o grwpiau Saesneg, lle mae pobl yn rhannu lluniau a syniadau creadigol. Anfonais y gwaith uchod I Awstralia ychydig yn ol i'w harddangos mewn arddangosfa. ATC's mae rhain yn cael eu galw, maent yr un maint a'r hen gardiau sigarets ers talwm ac mae merched yn eu casglu a'u cadw mewn album. Y syniad o wneud rhain yw cyfnewid rhwng naill a'r llall ond dim eu gwerthu. Artist's Trading Cards yw'r enw'n llawn. Yr un modd mae pobl yn gwneud 'swap' hefo Cardiau Post creadigol o bob math. Mi ddanghosaf rhain rhyw noson arall.


Mae'r gwaith yma wedi ei ysbrydoli gan y llun yma dynais yng Nghonwy.


Dyma'r ffenestr hir yn yr adeilad yma oedd yn hen sinema dwi'n meddwl.


Dyma lun diddorol arall ar yr un adeilad.

Saturday, October 28, 2006

Hen arferion

Cafodd y gwr a finna' sgwrs am hen arferion ar y ffordd i Gaer y bore yma.
Byddai fy nhad yn arfer ysgwyd llaw pan fyddai'n cyfarfod ag un o'i ffrindiau ar y ffordd. Os byddai yn cafarfod a hen ffrind a honno'n ferch byddai'n aml yn rhoi clamp o gusan ar ei boch. 'Roedd teulu Nain Victoria i gyd yn gwneud hyn pob tro y byddent yn gweld eu gilydd hefyd. Fedrai fy mam ddim dygymod a hyn o gwbwl am nad oedd wedi arfer, a byddai yn sefyll yn hollol stiff os byddai unrhyw un o'r teulu yn gwneud hyn iddi hi. 'Roedd y merched hefyd yn dangos eu teimladau at eu teulu yr un modd.
Un o'r rhai sydd yn dangos ei theimladau ydw inna' hefyd. Os byddaf yn gweld hen ffrindiau yn y dre fedra'i ddim peidio a dangos mor falch yr wyf o'u gweld. Mae fy meibion yr un fath dwi'n credu. Ond mae'r gwr yn tueddu i weld hyn yn hen lol hefo pobol ddiarth.
Ond un peth mae yntau yn ei wneud os bydd yn gweld hen ffrind neu gydnabod mae heb eu gweld ers tro ydy' ysgwyd llaw. Dwi'n meddwl fod yr hen arferiad da yma wedi mynd yn amhoblogaidd tros dro, ond mae pobl wedi gafael ynddo eto. Gwelais un o fy meibion yn ei wneud yn hollol naturiol y dydd o'r blaen ac 'roeddwn yn falch o'i weld. Mae hyn yn gyffredin iawn mewn rhannau o'r cyfandir hefyd. Pan oeddwn yn Ffrainc ychydig yn ol, sylwais fod y bobl ifanc i gyd yn gwneud hyn a'u ffrindiau, y bechgyn yn ysgwyd llaw ac yn rhoi cusan ar foch y merched. Mae'r merched yn cusannu'r bechgyn a'r merched ar eu bochau pan yn cyfarfod. Fedra i ddim peidio a meddwl fod hyn yn help mawr i gadw pobl yn ffrindiau. Dallai ddim gweld neb sydd wedi cyfarch eu gilydd mor annwyl yn gallu troi'n gas at eu gilydd yn fuan. Gobeithio y bydd pobl Cymru yn ail afael yn yr arferiad yma.
Digwyddodd rhywbeth nad anghofia'i byth pan oedd ceir cynhebrwng fy nhad yn mynd drwy'r stryd yn araf yng Nghonwy. Safodd hen fachgen ar ochor y ffordd, tynnodd ei gap a'i ddal o'i flaen mewn parch at rhywun nad oedd hyd yn oed yn ei adnabod, sef fy nhad. Dyma hen arferiad sydd wedi mynd ar goll yn yr ardal yma. Dwi wedi meddwl llawer am y digwyddiad yma. Petai fy nhad wedi ei weld buasai ei lygaid yn llenwi dwi'n siwr gan ei fod yn un dwys iawn.
Byddai fy nhad yn dyfynnu darnau o'r bregeth wrth y bwrdd bwyd ar y Sul, weithiau gyda chryndod yn ei lais a'i lygaid yn llawn os byddai'r pregethwr wedi dweud rhywbeth arbennig.

Tuesday, October 17, 2006

Hen adgofion

Cefais ddiwrnod da iawn ddoe pan ddaeth Gwyneth fy nghyfyrderes yma am y diwrnod. Mae ein diddordebau yn debyg iawn ac wrth gwrs mae wedi gorffen arnom pan ydym yn dechrau son am yr hen amser pan yn blant yn Nantlle ers talwm. Buom yn edrych ar hon Eric Jones :Geograph British Isles ar y we ddoe ac mae degau o luniau o ardal Nantlle ynddi. Cododd hyn hiraeth mawr arnai. Mae yn ddifyr iawn.
Dro'n ol, gofynais oedd rhywyn yn gwybod y gair Cymraeg am 'second cousin' fenywaidd yn Gymraeg. 'Roeddwn yn gwybod mai cyfyrder oedd bachgen.
Cefais ateb gan hen ffrind ac hefyd gan Nic Dafis, mae ganddo amryw o flogiau Cymraeg diddorol. Dyma un ohonynt englyn y dydd. A dyma ateb diddorol Nic-

"Cyfyrder(-on) neu cyfyrderes(-au), yn ôl Bruce.

Hefyd, caifn yw'r 3ydd/edd, gorchaifn yw'r 4ydd/edd a gorchaw yw'r 5ed. Cyfyrder(-on) neu cyfyrderes(-au),
yn ôl Bruce.

Hefyd, caifn yw'r 3ydd/edd, gorchaifn yw'r 4ydd/edd a gorchaw yw'r 5ed."


Mi fydd yn rhaid i mi weithio allan rhai o fy gaifn a'm gorchfain. Fedrai ddim mynd yn llawer pellach dwi'n siwr.


Dyma lun diweddar o Gwyneth hefo Trish, ffrind arall inni. Bydd yn rhaid i mi ofyn i rhywun dynnu llun ohonom hefo'n gilydd.

Monday, October 09, 2006

De Ffrainc


'Rwyf newydd ddod yn ol ar ol wythnos o wyliau yn Ne Ffrainc. gwnewch yn fawr o'r llun yma ohonof gan nad oes llawer ohonynt ar gael, gwell gen i tu ol i'r camera nag o'i flaen.
Tynnwyd hwn yn Villefranche-sur-Mer.
Lle diddorol iawn, er mai yn Cannes y byddwn yn hoffi aros, awn ar y tren i wahanol lefydd rhyw deirgawaith neu bedair. Y tro yma aethom i Monaco, Nice a Villefranche. Byddaf wrth fy modd yn Monaco, yn enwedig yn yr hen dre lle mae'r palas. Wrth gwrs byddaf hefyd yn hoffi Monte Carlo a chael clamp o hufen ia yn y Cafe de Paris yn edrych ar y ceir anhygoel o ddrud yn cael eu parcio. Mae rhai o'r merched yn gwisgo dillad drud iawn o gwmpas a rhai eraill yn gwneud eu gorau i gadw i fyny. Mae'n anodd coelio y fath arian sydd o gwmpas.
Dyma lun o'r fwydlen, anghofiais lun o'r hufen ia.


Os hoffech weld rhagor o luniau ewch i edrych yma DG's Photos and Digital Art Ymhellach ymlaen byddaf wedi rhoi rhagor o luniau yma.
Hwyrach ymhen blynyddoedd, byddaf yn galw'r gwyliau yma yn Wyliau'r Drysau, gan i mi dynnu lluniau gymaint o ddrysau a haearn gyr(wrought-iron yn ol y geiriadur)

Monday, September 18, 2006

Coch y Bonddu eto


Heddiw cefais y llun yma gan Humphrey, gwr fy ffrind Louie. Mae Humphrey yn hoffi pysgota ac mae hefyd yn cawio(gwneud ei blu ei hun).

"I wneud y bluen pysgota Gymreig “Coch y Bonddu”- pluen fyd enwog - defnyddir pluen o fantell iâr neu geiliog sy’n ‘goch gyda bôn du’; defnyddir edefynnau o bluen cynffon ceiliog paun i wneud y corf, gyda weiren aur denau yn rhedeg trwyddo (gweler y llun)."

Daeth hyn ac adgofion melys iawn yn ol i mi. Pan oeddwn tua 14eg oed cofiaf fy hun yn eistedd wrth fwrdd crwn yn y gegin fach hefo mam a nhad yn gwneud y plu yma. Y tri ohonom wrthi am y gorau. Doedd o ddim yn hawdd i ddechrau a 'doedd y rhai oedd mam a finnau yn eu gwneud ddim yn pasio'r 'test'. Ond ar ol gwneud rhyw hanner dwsin 'roeddynt wedi gwella.

Gofynais yn ddiweddar beth oedd y ffurf fenywaidd o cyfyrder(au) a dyma'r ateb gan Humphrey-y ffurf fenywaidd o cyfyrder(au) yw ‘cyfyrdder(au). Diolch iti unwaith eto!

Sunday, September 17, 2006


Tybed oes un ohonoch wedi sylwi ar y ty hynod yma ar yr ochr arall i Bont y Pair? Welais i erioed simnai fel hon.


Mae'r ddau yma yn chwarae jas yn amal iawn yn Llandudno ond dyma'r tro cyntaf i mi eu gweld yma ym Metws y Coed. 'Roeddynt yn sefyll ar lan yr afon a'u cefnau at yr olygfa yma.


I goroni diwrnod braf fe syrthiais mewn cariad. Mewn cariad dros fy mhen a'm clustiau a'r ci yma.


Ci hoffus iawn o'r enw Titan. Ci Newfoundland ydi hwn ac 'roedd yn anferth er nad yw ond yn ddyflwydd oed. Mae'n dal i dyfu.
Mae'r cwn yma yn reddfol yn hoff o ddwr ac yn gallu nofio yn gryf. Maent yn cael eu defnyddio i achub pobl mewn perygl yn y mor. Ond 'roedd perchennog hwn yn dweud mai dyma'r unig gi Newfoundland oedd yn gwybod amdano oedd yn casau mynd i'r dwr.

Aethom i Betws y Coed pnawn Sadwrn ac 'roedd yn hynod o braf yno. 'Roeddwn wedi gobeithio cael llun o'r Cry Glas anferth welais yno yr wythnos cynt. Cefais gip bach arno a'i ben yn ei blu yn edrych yn drist iawn. Tynnais ei lun ond 'roedd yn rhy bell a di-sylw i'w bostio yn fan hyn.

Ond dyma ichi beth wnes i sylwi arno, y coed derw yn pwyso o fes(piti na fuaswn yn gwybod syt i roi to bach ar fy ngeiriau)A dyma luniau i chi i brofi hynny. Welsoch chi gymaint a hyn ar y coed o'r blaen? Tybed ydi hyn yn golygu ein bod am Aeaf caled? Tynnais lun coeden gelyn a honno hefyd yn llawn aeron coch.

Tuesday, September 12, 2006

Castell Conwy yn y nos

(Cliciwch i weld y lluniau yn fawr)


Dyma lun Conwy a dynais drwy'r ffenestr agored heno. 'Rwyf newydd lwyddo i dynnu lluniau yn y nos gan ddefnyddio 'tripod'.


Dyma lun arall ychydig yn nes. Pan fyddaf yn edrych arno wedi ei oleuo fel hyn, gallaf ddychmygu sut yr oedd yn edrych pan gafodd ei adeiladu gan ei fod wedi ei wyn-galchu. 'Roedd yn adeilad hardd yn siwr o fod, ond yn adeilad i ddychryn yr un pryd. Adeiladwyd y castell a wal y dref mewn 4 blynedd, dechreuwyd yn 1283 a'i orffen yn 1287. Daeth Edward y 1af a chriw o Saeson i fyw i'r dref ond wrth gwrs 'doedd dim Cymru yn cael byw yno. 'Roeddynt yn dal i feddwl am y dref fel tref Saesnig 200 gan mlynedd yn ddiweddarach.
Taswn i yn medru sgwenu nofel, dwi'n siwr fod yna destyn da i ddefnyddio dychymyg yma.

Friday, September 08, 2006

Esgid Mam

'Rwyf yn perthyn i grwp o'r enw 'Designbytes' yn Awstralia. Grwp yn gwneud gwaith 'mixed-media' gan ddefnyddio cyfrifiadur i ddylunio'r gwaith ydy hwn. Penderfynwyd cyfnewid tudalennau wedi eu gorffen a'n gilydd. Un ar bymtheg oedd yn perthyn i'r grwp cyfnewid llyfrau. Dewisodd pob un ei bwnc ei hun, ac wedyn anfonodd bob un dudalen i siwtio pwnc y naill a'r llall.
Dewisais i y pwnc Darnau(Fragments)


Y rheswm am hyn fel y dywedais o'r blaen, mae fy nghof o lwy garu Nain yn fratiog iawn. 'Gallaf weld y darnau a'r llwy fel breuddwyd yn fy mhen.

Dewis un arall oedd 'Amser arall, lle arall' neu 'Another Time, Another Place'.
Dewisais y tro yma wneud tudalen fel cwilt bychan am esgid gafodd fy mam yn y ffair.
Bu farw fy nhaid o'i anafiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd fy mam yn 9 oed a'i brawd yn 7. Bu fy Anti Elin yn garedig iawn wrthynt yn ystod yr adeg yma. Unwaith aeth a mam i'r ffair a phrynodd esgid degan hefo carai arni iddi. Mae'r esgid yn dal gennyf.


Dyma'r esgid. Os cliciwch i weld llun mwy fe sylwch ar graciau wedi eu trwsio ar ochr yr esgid. Gollyngais hi wrth llnau un diwrnod.


Hwn oedd y llun ddyluniais ar y cyfrifiadur gan ddefnyddio dau lun, un o Anti Elin a'r llall o mam a'u rhoi at eu gilydd. 'Roeddwn wedi tynnu llun y ceffylau yn y 'Victorian Extravaganza' yn Llandudno ac i orffen tynais lun o'r esgid a'u cyfuno. Y bwriad cyntaf oedd ysgrifennu 'Kindness' arno, ond ail feddwl a sgwenu Esgid Mam arno yn Gymraeg.


A dyma'r dudalen anfonais i Awstralia. Mae wedi ei brintio a'i gwiltio, gyda'g ychydig o wnio rhydd ar y peiriant gwnio.

Tuesday, September 05, 2006

Diwrnod Mawr gyda'r BBC

(Cliciwch i weld llun cliriach)

Cefais gyntaf ar draethawd pan oedd Llwyd o'r Bryn yn beirniadu yn Eisteddfod Nantlle tua 1949. 'Dwi'n meddwl mai'r testyn oedd 'Diwrnod Bythgofiadwy'. Yn digwydd bod, ychydig cyn hyn roeddwn wedi cael canu hefo 'Parti bach' Mr C H Leonard (oedd yn athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle) ar y Radio, ynghyd a Sassie Rees, Llwyd o'r Bryn, Gwynn Jones, J O Williams, Osian Ellis, Ifan O Williams a Sam Jones. Dyna i chi fraint oedd cael bod ar yr un rhaglen a'r enwogion yma i gyd. Dyma'r hanes a ddewisais ysgrifennu amdano yn y traethawd, a dywedodd Llwyd O'r Bryn ar ei feirniadaeth fod yn rhaid iddo roi'r wobr i mi gan fy mod wedi gwerthu cymaint o ledod.

O edrych yn ol, mae'n siwr o fod yn un o'r dyddiau hynny sydd yn aros mewn cof am byth. Cefais lofnod pob un ohonynt y diwrnod hwnnw ar yr un darn papur, ond Mr Leonard ei hun. 'Roweddwn ormod o'i ofn i ofyn am ei lofnod.

Dwi'n siwr fod y llofnodion yma yn werthfawr iawn ac os oes rhywun yn gwybod beth ddylwn ei wneud a'r papur yma rhag iddo gael ei daflu(fel sydd yn sicr o ddigwydd) ar fy ol, a fuasech mor garedig a gadael i mi wybod?.

Friday, September 01, 2006

Coch y Bonddu

Wrth edrych i fyny y gair 'Conchy Bondhu' y soniais amdano ychydig ddyddiau'n ol yn Google, fe ddois ar draws hwn Welsh week, mate! - Wales has a lot of good fishing to offer - Global FlyFisher
Tybed wyt ti wedi gweld hwn Humphrey? A dyma un arall o ddiddordeb mawr i bobl sydd yn 'cawio', Classic Wet Flies - Bergman and Beyond - Global FlyFisher

Mae sawl gelyn gan y pysgotwr. Tri fedra'i cofio, y cry glas, y bili dowcar a'r dyfrgi. Y tri yn hoff o bysgod.

Tuesday, August 29, 2006

Pysgota

Tri peth oedd yn bwysig i nhad, cerddoriaeth, pysgota a'i deulu.
'Roedd ganddo gwch ar lan llyn Nantlle ar hyd y blynyddoedd, ond yn anffodus 'does gen i ddim llun ohono yn ei gwch.


Mae gen i lun o nhaid yn y cwch hefo'i gi du 'Don', mae'r llun yma a llawer o hanes y teulu yn y llyfr adgofion a ysgrifennodd Tomos Alun Willaims, galwodd ei lyfr yn Atgofion Uncle Tomos.
Ynddo mae'n son am fy nhaid yn gwneud plu pysgota. Cofiaf y bwrdd a'r taclau lle byddai fy nhaid yn gwneud ei blu mewn cornel o'r cwt golchi yng ngwaelod yr ardd. 'Roedd fy nhaid wedi marw rai blynyddoedd cyn i mi gael fy ngeni yn anffodus.
Byddai fy nhad hefyd yn gwneud plu, a byddai fy mam a finnau yn ei helpu os byddai ganddo angen gwneud rhai fesul cant i siop ym Mhenygraes.

Beth ddaeth a'r pwnc yma i fy meddwl 'rwan meddech chi? Ysgrifennais am y diwrnos difyr gefais yng nghwmni fy hen ffrindiau ysgol yma Aduniad.
Fe aeth y sgwrs yn naturiol o un oeth i'r llall, a deallais fod Humphrey, gwr Louie wrth ei fodd yn pysgota, ac hefyd yn hoffi 'Cawio' meddai hi. Dyma air hollol newydd i mi am 'wneud plu'. Edrychais o i fyny yn y Geiriadur Mawr a gweld mai gair Cymraeg arall am glymu(to tie)ydi hwn. Addewais iddi dynnu llun Humphrey yn 'cawio' a'i anfon i mi.


Diolch am ei anfon mor sydyn Louie.


Ffrind o Awstralia anfonodd y rhain i mi a synais weld beth oedd yn galw Coch y Bonddu. Conchy Bondhu! Wel, rwan beth ydy hyn, ni Gymru sydd wedi ei Gymreigeiddio, neu ydy'n nhw wedi newid y gair i siwtio'u hunain?

Sunday, August 27, 2006

Llyn Nantlle


Dyma lun diweddar o lyn Nantlle, dynnwyd gan 'Eifion'. Dyma'i Flikr Llyn Nantlle Uchaf


A dyma lun gan Richard Wilson sydd yn hongian yn y Walker Art Gallery yn Lerpwl. Roedd yr hen Wilson yn reit agos i'w le pan dynnodd hwn yn toedd?
Mae'n debyg eich bod wedi casglu yn barod fod gennyf feddwl mawr o Nantlle a'i phobol? 'Roeddwn yn edrych o gwmpas siop Na-Nog, Y Siop Gymraeg yn Llandudno yn ddiweddar a gwelais ddarlun o gwch ar lan y llyn ac englyn gan Dafydd Morris odditano. Cyfeiriais ato i Emyr y gwr, a doeddwn i ddim yn meddwl ei fod wedi cymeryd fawr sylw ohonof, ond y pnawn hwnnw daeth adref hefo'r llun imi.
Dyma'r englyn-

Llyn Nantlle
Hwn yw crud y creawdwr-a luniodd
Ei lannau a'i oerddwr,
Ei hafau ddaw a'r rhwyfwr
I dynnu don ar y dwr.
Dafydd Morris

Dyma un o fy ffefrynau o'r llyn a'r Wyddfa. Gan yr arlunydd enwog Richard Wilson yn y ddeunawfed ganrif. 'Y Wyddfa o Lyn Nantlle', Richard Wilson

Thursday, August 24, 2006

Cychod Conwy


Mae cychod arbennig iawn ar yr afon Conwy, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn. Hen gychod pysgota ydynt a elwir yn 'Nobbies'. 'Does dim ond rhyw ddeugain ar ol erbyn heddiw yn ol pob tebyg.


Cychod hwylio ydynt ac maent yn hawdd i'w 'nabod gan fod pen ol y cwch yn isel a'r tu blaen yn uwch.


Dyma wefan o Hen_luniau_cychod_Pwllheli


Dyma lun o hen long(replica)Yr HMS Pickle, sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghonwy.


I orffen y post yma, dyma lun yr haul yn machlud ar yr afon a'r cychod echnos.

Sunday, August 20, 2006

Y Goeden Afal


Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy.

'Rwyf yn aelod o grwp tecstiliau o'r enw Serendipity ac 'rwyf wedi agor blog Saesneg o'r enw SerenTex i ddangos ein gwaith a rhoi tipyn o'n hanes. Mae pump ohonom yn Gymru Cymraeg allan o 14eg a'r peth braf yn y grwp ydy'r ffaith fod y merched di-gymraeg yn poeni dim pan yda ni'n cael sgwrs yn Gymraeg. I'r gwrthwyneb, mae rhai ohonynt yn hoffi'n clywed yn gwneud hyn. Mae un Saesnes ronc yn ein plith sydd yn wastad yn edrych ar S4C gyda theitlau Saesneg. Ei ffefryn mwyaf ydy Compasionate.

Mi es ar ol ysgyfarnog am funud. Mynd i ddweud beth oedd y gwaith yn y llun uwchben yr oeddwn. Y gamp oedd i aelodau'r grwp wneud llun yn cynnwys adgofion med du gwyn ac ychydig o oren.
Roedd yna hen geden afal yn nhy fy Nain Victoria yn Nantlle nad oedd byth yn dwyn ffrwyth. Dywedodd hi wrthyf lawer gwaith fel yr oedd wedi ceisio gael fy nhaid i dorri'r goeden i gael my o olau yn y gegin, yn enwedig a dim falau yn tyfu arni. Mi fyddai taid yn dweud rhyw adnod o'r Beibl wrthi "Gad ef y flwyddyn hon eto". beth bynnag, y flwyddyn y bu taid farw 'roedd afalau ar yr hen goeden am y tro cyntaf erioed. cahfodd hi ddim ei thorri tra'r oedd nain yn fyw. Os gwn i ydy hi'n dal yno?
'roedd yn arferiad gan y teulu gael tynnu llun o dan y goeden, a dyna sydd yn y cwilt bach yma, llun o taid a nain a 'nhad, fy nhad a Gwilym ei frawd, a finnau hefo Mair fy nghyfneither.

Mae Gwyneth fy nghyfneither, dwi'n gwybod yr enw Cymraeg am '2nd cousin' bachgen sef cyfyrder. All rhywun ddweud wrthyf beth ydy merch? Dyna'r berthynas rhyngom. 'Buom yn byw y drws nesaf i'n gilydd yn blant yn Nantlle. Dyma'i chwilt adgofion hi, mae'r ddau yn 'waith ar eu hanner' cofiwch.


Fe fydd pobl Nantlle i gyd yn 'nabod yr olygfa yma o'r Wyddfa o lyn Nantlle. 'Roedd y ddwy ohonom yn cofio mynd i ymdrochi yn Boncan Bach yn yr haf. A mynd i hel cnau a mwyar duon.
Rwyf newydd ddod ar draws y wefan yma 'rwan ac wrth fy modd. Gwefan Dyffryn Nantlle

Thursday, August 17, 2006

Aduniad

Bydd y diwrnod yma yn aros yn fy nghof yn hir iawn. Trefnodd fy ffrind Enid, sydd yn byw yn Sir Fon gyfarfod rhwng pump ohonom yn Llandrillo yn Rhos. 'Roedd dwy ohonom yn byw yn eithaf agos at ein gilydd yn Deganwy, dwy Fargaret yn digwydd bod, ond un un yn cael ei galw'n Megan. Cododd Enid ni i fyny yn ei char ar y ffordd. Daeth y ddwy arall, Nan a Louie i'n cyfarfod o Lerpwl.
Roeddem i gyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle yr un pryd. Un o'r Ynys ger Pantglas yw Megan yn wreiddiol a Nan o Garndolbenmaen. 'Roedd y ddwy yn byw yn ddigon agos i'w gilydd i fod yn mynd i'r un capel pan yn blant.
Yng Ngharmel 'roedd cartref Louie, Enid o Dalysarn a minau rhyw dafliad carreg i ffwrdd oddiwrthi yn Nantlle.

Buom yn sgwrsio o 11 yn y bore hyd 6 o'r gloch y nos. 'Roedd gen i ddau lyfr Llofnodion hefo fi, ac 'roedd enwau hen gyfeillion ac athrawon ynddo, fu'n gymorth i gofio digwyddiadau a chymeriadau, ac aethom o un peth i'r llall gan sgwrsio'n ddifyr am yr holl oriau. Y peth oedd yn darawiadol am y llyfrau yma oedd y ffaith fod y rhan fwyaf ohonynt yn Saesneg. Meddyliwch, criw o bobl ifanc a chefndir mor Gymreig, yn sairad Cymraeg yn ein cartrefi a Chymraeg yn yr ysgol ac yn yr iard yn ysgrifennu yn Saesneg yn y llyfrau yma! Byddai'r athrawon hyd yn oed yn siarad llawer o Gymraeg yn y gwersi Saesneg, Arlunio, Bioleg a.y. Er ein bod yn cael ein haroliadau trwy gyfrwng y Saesneg, Cymraeg oedd prif iaith y gwersi hyd y cofiaf. 'Digwyddodd hyn amser maith yn ol cofiwch. Wnai ddim dweud faint chwaith. Dyfalwch chi wrth edrych ar y llun.

Bwriadwn gyfarfod eto cyn hir a cheisio cael y rhai oedd yn methu dod y tro hwn yno hefyd.



Dyma lun ohonom gyda'n gilydd. Diolch i Enid am drefnu y diwrnod arbennig yma i ni.

Wednesday, August 16, 2006

Y trydydd diwrnod

Gredwch chi mai merch o'r Alban oedd yr ymwelydd cyntaf ar y flog yma? Os darllenwch y sylwadau, gwelwch ei bod wedi ateb yn Gymraeg. Chwarae teg iddi, defnyddiodd 'phrase book' meddai hi.
Dro bach yn ol, cymerais ran mewn cyfnewid tudalennau llyfr wedi eu dyluno ar y cyfrifiadur a'u cynhyrchu mewn brodwaith 'mixed media'
Dyma un a wnes er cof am fy Nain.
Mae hanes diddorol i hwn. Pan oeddwn yn blentyn 'roedd dror yng nghwpwrdd gwydur Nain yn llawn galanst, fel carai esgid a choncer yn hongian arno, edau, llwy i roi esgid am eich troed, ychydig o Meccano ar ol fy mrawd. Ynghanol rhain 'roedd y llwy garu harddaf a welsoch erioed. O bren afal dywedwyd wrthyf y cafodd ei cherfio. 'Roedd yn llwy ddwbl a chrac yn un o'r llwyau. 'Roedd gennyf feddwl y byd o hon. Nid fy nhaid roddod y llwy i Nain, ond gwas fferm lle'r oedd Nain yn gweini a'i cherfiodd iddi. Taflodd fy mam y llwy heb yn wybod i mi wrth 'spring cleanio'. Mae'n boen arnaf na fedraf ei chofio yn berffaith, mae fel rhyw freuddwyd mewn niwl.
Dyna pam y gwnes y llun yma gan ddefnyddio hen lun o Nain yn ferch ifanc.



Tuesday, August 15, 2006

Ymddiheuriad

Mae'n ddrwg gen i fod fy nghyflwyniad yn Saesneg, ond gan fod gennyf ddwy blog arall does dim modd newid hwn hyd y gwelaf.

Magwyd fi ym mhentref Nantlle, y pentref gorau yn y byd. Mae cyfarfod un o'r hen gyfoedion yn mynd a fi'n syth yno i mhlentyndod. Cefndir ardderchog i dyfu i fyny ynddo. Os cewch gyfle i ddarllen llyfr Iona ac Andy y cantorion gwlad enwog, fe gewch ddarllen yn union y magwraeth a ges innau. Mae Iona wedi ei ddweud yn llawer gwell nag y gallaf i.

Cyn ddisgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle ydw i ac yn falch iawn o gyhoeddi hynny hefyd.
Es ymlaen i Goleg y Normal, Bangor a bum yn dysgu am dros ddeg mlynedd ar hugain. Ar ol ymddeol gofynnwyd i mi ddysgu pobl i ddefnyddio Peiriant Gweu, Electronig a 'punchcard' i Goleg Llandrillo, oedd a 'satelite' yn Ysgol Tan y Fron ym mhentref Bylchau, Sir Ddinbych. Cymerais ddosbarthiadau ddau ddiwrnod yr wythnos yno am bum mlynedd. Edrychaf yn ol ar yr amser a dreuliais yno fel un a gyfnodau hapusaf fy mywyd.

Erbyn hyn rwyf wedi llwyr ymddeol gan dreulio fy amser yn chwarae hefo'r cyfrifiadur, ysgrifennu fy 'blogs' mor reolaidd ag y gallaf a chreu, a chreu, beth bynnag fyddaf yn deimlo fel ei wneud ar y pryd.


Dyma i chi lun o ddarn o fy 'lofft' lle bydda i'n chwarae. Rwy'n gorfod dringo ystol i gyrraedd hon, ac rwy'n gobeithio y medraf barhau i'w dringo am flynyddoedd lawer eto.


Dyma lun arall o'r ochr arall o'r llofft. Hwyrach a gadawaf i chi weld tipyn o'r llanast yn nes ymlaen. Gyda llaw os buasech yn hoffi gweld y lluniau yn fawr, rhowch glic ar y llun.

Y Post Cyntaf


Rwyf yn byw ar lan yr afon Conwy, yn union tros y ffordd a'r castell. Rwy'n briod a dau fachgen wedi tyfu i fyny ac mae gennyf 4 o wyrion ac un arall ar y ffordd.

Dechreuais flog Saesneg tua'r Nadolig y llynedd a gelwais hi yn 'Digital Gran' gan fy mod yn Nain ac yn hoff iawn o chwarae hefo'r cyfrifiadur. Cefais tipyn o hwyl ar y cyfrifiadur dros y blynyddoed gan gael llawer o waith wedi ei gyhoeddi mewn gwahanol gylchgronau Brodwaith ac felly ymlaen yn Saesneg.

Rwyf wrth fy modd yn gwneud pob math o waith llaw ac yn gorfod dal yn dynn yn fy mhwrs yn amal rhag gwario mwy o arian ar ddechrau rhyw 'broject' newydd hollol i mi.
Rwyf yn perthyn i grwp tecstiliau o'r enw 'Serendipity' ac rwyf wedi dechrau blog tros y grwp o'r enw 'Serentex'.

Pleser arall gennyf yw tynnu lluniau a chamera ddigidol, a byddaf yn ceisio rhoi llun ar fy mlog mor aml a phosib.

Gyda llaw, rhyw bleser bach i mi fy hun ydy'r flog yma, ond gorau'n y byd os bydd merched Cymru yn ei ddarllen o dro i dro hefyd. Edrychaf arno fel ffordd i hybu'r Gymraeg ar yr un pryd ysprydoli merched i wneud mwy o waith llaw. Teimlaf ers tro byd fod ein hysgolion wedi eu gorfodi i roi gwaith llaw o'r neilltu er mwyn rhoi mwy o amser i'r 3R a phethau eraill sydd yn cael eu cyfrif yn bwysicach. Wrth gwrs mae angen sylw mawr ar y pynciau yna, ond mwy a mwy o amser hamdden sydd gennym ac mae llawer o'n pobl ifanc ni heb y sgiliau sydd eu hangen i ddiddori eu hunain. Mae creu rhywbeth o'r newydd yn gallu rhoi pleser mawr iawn ac mae'n drist meddwl fod cymaint o bobl heb deimlo'r pleser yma.